ADY
Miss Louise Russell - Cydlynydd ADY
Cynorthwyon Dysgu
Crewyd rhywfaint o’r cynnwys hwn cyn i reolau Covid-19 ddod i rym.
GWELEDIGAETH
Ein bwriad yw i ddarparu cefnogaeth gynhwysol i bob dysgwr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Dymunwn ddatblygu ethos arweiniol disgyblion gyda dull cyfannol.
Y CWRICWLWM – TROSOLWG BRAS
Yma yn Ysgol Gyfun Aberaeron, rydym yn darparu nifer helaeth o ymyrraethau i gefnogi ein disgyblion, boed yn ymyrraeth darllen, sillafu neu rhifedd, Mae’r rhan fwyaf o’r ymyrraethau’n cael eu darparu dros gyfnod o ddeg wythnos am hanner awr pob wythnos. Rydyn ni hefyd yn rhedeg Canolfan Croeso, sy’n cynnig darparaieth amgen i ddisgyblion sy’n methu â chael mynediad at gwricwlm prif lif o achos eu Anghenion Dysgu Ychwanegol.
DYSGU YN Y CARTREF
Credwn yn gryf y dylai pob disgybl geisio ymaelodi ag o leiaf un clwb allgyrsiol lleol. Mae hyn yn allweddol i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a chymdeithasu disgyblion.