INSET DAY - FRIDAY 30TH OF JUNE - SCHOOL WILL BE CLOSED

Astudiaethau Cyfryngau

Mrs Colleen Roberts

Crewyd rhywfaint o’r cynnwys hwn cyn i reolau Covid-19 ddod i rym.

GWELEDIGAETH

Dymunwn ddatblygu dysgwyr sy’n deall perthnasedd y cyfryngau a’i rôl yn eu bywydau bob dydd. Ein nod hefyd yw datblygu annibyniaeth ein dysgwyr wrth ymchwilio a chreu gwaith ymarferol a ffurfio eu barn eu hunain.

Y CWRICWLWM – TROSOLWG BRAS

Cynigir Astudiaethau Cyfryngau fel pwnc Safon UG/ A yn Ysgol Gyfun Aberaeron. Astudir cynhyrchion o ystod o ffurfiau o gyfryngau – hysbysebion, fideos cerddoriaeth, ffilm, papurau newydd, radio, cyfryngau ar-lein, cylchgronau, gemau teledu a fideo, gan gynnwys cynhyrchion o wahanol gyfnodau hanesyddol a lleoliadau byd-eang a’r rhai sydd wedi’u hanelu at gynulleidfa nad yw’n brif ffrwd.

Manyleb: https://www.cbac.co.uk/media/1akn3jh0/wjec-gce-media-studies-spec-from-2017-w-19-06-2020.pdf

DYSGU YN Y CARTREF

Gartref, rydym yn argymell yn gryf bod myfyrwyr yn gwneud gwaith ymchwil er mwyn dod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am faterion cyfoes a hefyd yn cymryd diddordeb mewn ffotograffiaeth. Yn ogystal â hyn, gallwch chi fel rhieni a gwarcheidwaid gefnogi’ch plentyn gyda’r nifer fawr o gyfleoedd i gymryd rhan mewn cystadlaethau e.e. Gwobr Iris LGBTQ +.