Swyddogion Newydd

Swyddogion Newydd

Llongyfarchiadau i’r canlynol ar gael eu hethol. Prif Swyddogion; Iolo Jones a Manon Williams. Swyddogion; Gruffydd Morgan, Poppy Evans, Tallulah Richards a Rhodri Edwards. Dymuniadau gorau iddynt yn eu swyddi newydd.
SCRABBLE!

SCRABBLE!

Llongyfarchiadau i Elliott Morgan, ennillydd Twrnament Scrabble Blwyddyn 12 Ysgol Gyfun Aberaeron. Y mae Elliott wedi ennill taleb gwerth £10 i’w gwario yn Angelato. Hoffem ddiolch i Angela yn Angelato, Aberaeron am ei rhodd hael.
EISTEDDFOD T

EISTEDDFOD T

Llongyfarchiadau i ddwy o ddisgyblion Blwyddyn 9 Ysgol Gyfun Aberaeron ar eu llwyddiant yn Eisteddfod T yr Urdd eleni. Enillodd Catrin Edwards y gystadleuaeth farddoniaeth Bl. 7-9 ac enillodd Erin James-Lynch y gystadleuaeth gyfansoddi monolog digri Bl. 7-9.