INSET DAY - FRIDAY 30TH OF JUNE - SCHOOL WILL BE CLOSED

Daearyddiaeth

Mrs Rhian Jones - Pennaeth Adran

Mr Mathew Hill

Mrs Rhunedd Davies

Crewyd rhywfaint o’r cynnwys hwn cyn i reolau Covid-19 ddod i rym.

GWELEDIGAETH

Un o’n prif amcanion yw i ddatblygu sgiliau ymchwilio disgyblion drwy waith maes. Credwn ein bod hefyd yn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o gysyniadau daearyddol a gwerthfawrogi eu perthnasedd i’n byd newidiol.

YSTAFELLOEDD AC ADNODDAU

Fel adran rydym yn ffodus iawn o gael stoc dda o adnoddau sy’n ddi-os yn cyfoethogi profiadau dysgu disgyblion. Mae hyn yn cynnwys byrddau gwyn rhyngweithiol ym mhob ystafell ddysgu ble defnyddir meddalwedd arbenigol ac adnoddau ar-lein yn rheolaidd i loywi’r dysgu. Mae adran wedi buddsoddi mewn sawl cyfres o werslyfrau addas ar gyfer disgyblion iau a hŷn yr ysgol ac yn ddiweddar wedi buddsoddi’n helaeth mewn llyfrau ymarfer sgiliau arholiad a llyfrau adolygu TGAU a Safon Uwch. Mae bod yn berchen ar bar o welingtons yn sicr yn werthfawr yn y pwnc yma!

CA3

Ym mlynyddoedd 7, 8 a 9, ceir tair gwers pob pythefnos. Rydym yn astudio pynciau megis Gwastraff ac Ailgylchu, Tectoneg Platiau a Phoblogaeth.

CA4: TGAU DAEARYDDIAETH

Os ydych chi’n dewis astudio Daearyddiaeth fel pwnc TGAU, byddwch yn derbyn pump o wersi pob pythefnos. Astudir daearyddiaeth ffisegol a dynol ar raddfa leol a rhyngwladol. Ceir dau ddiwrnod o waith maes hefyd.

Manyleb: https://www.cbac.co.uk/media/rkula2gh/wjec-gcse-geography-spec-from-2016-w-17-02-2020.pdf

CA5: DAEARYDDIAETH UG/ SU

Os ydych chi’n dewis astudio Daearyddiaeth yn y Chweched Dosbarth, byddwch yn derbyn saith o wersi y pythefnos. Astudir pump uned o waith, yn cynnwys dau ym mlwyddyn 12 a thri ym mlwyddyn 13. Mae’r themau’n cynnwys Tirweddau a Lleoedd newidiol (blwyddyn 12) a Systemau a Rheolaeth Fyd-eang a Themau Cyfoes mewn Daearyddiaeth. Ceir pedwar diwrnod o waith maes dros y ddwy flynedd hefyd. Rhoddir y cyfle i ddysgwyr ddewis testun ar gyfer yr ymchwiliad unigol ym mlwyddyn 13 (gwerth 20%) sy’n clymu mewn gyda chynnwys y cwrs.

Manyleb: https://www.cbac.co.uk/media/afudg1xo/tag-daearyddiaeth-manyleb-addysgu-o-2016.pdf

DYSGU YN Y CARTREF

Byddai’n werthfawr i ddysgwyr ddarllen cylchgronnau e.e Geography Review, edrych ar wefannau e.e The National Geographic/ Geographical Association a gwylio’r newyddion a rhaglenni materion cyfoes perthnasol. Yn ogystal â hyn, awgrymir i ddisgyblion Blwyddyn 12 a 13 i ymaelodi â’r Geographical Association.