Ffrangeg
Jenny Davies - Pennaeth Adran
Martin Ives
Crewyd rhywfaint o’r cynnwys hwn cyn i reolau Covid-19 ddod i rym.
EIN GWELEDIGAETH
Rydym yn cefnogi pob disgybl i ddysgu iaith dramor trwy ddatblygu eu sgiliau llafar, darllen ac ysgrifennu er mwyn eu paratoi ar gyfer eu dyfodol (siaredir Ffrangeg mewn tua 60 o wledydd y byd). Bydd disgyblion yn cael eu cyflwyno i ddiwylliannau gwahanol a ffyrdd eraill o feddwl. Po fwyaf o ieithoedd y mae disgyblion yn eu siarad, y mwyaf o gyfleoedd gwaith fydd ar gael iddynt yn y dyfodol.
YSTAFELLOEDD AC ADNODDAU
Mae’r Adran Ffrangeg wedi’i lleoli yn y bloc canol. Mae gan yr ystafelloedd dosbarth fyrddau gwyn rhyngweithiol, arddangosfeydd ac iPads i gefnogi dysgu disgyblion.
CA3
Mae disgyblion yn dysgu’r pethau sylfaenol ac yna’n datblygu eu sgiliau llafar, darllen ac ysgrifennu trwy dasgau sy’n cwrdd â gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol. Astudir ffilmiau Ffrangeg fel Bienvenue chez les Ch’tis a Les Choristes er mwyn i ddisgyblion ddatblygu sgiliau gwrando.
CA4
Mae gan ddisgyblion gyfle i ddewis TGAU Ffrangeg ym Mlwyddyn 9. Mae’r sgiliau a ddysgir yn CA3 yn cael eu datblygu ac mae gan ddisgyblion gyfle i ddefnyddio eu Ffrangeg mewn amrywiaeth o leoliadau.
Manyleb: https://www.cbac.co.uk/media/hzppn0xu/wjec-gcse-french-spec-from-2016-w.pdf
DYSGU YN Y CARTREF
Mae disgyblion yn cael cyfle i ddatblygu eu Ffrangeg trwy ddefnyddio apiau iaith a chlipiau YouTube i ddatblygu sgiliau ynganu. Mae disgyblion yn ymchwilio i agweddau ar Ffrainc a diwylliant Ffrainc.
Yn CA4, defnyddir ystod eang o dasgau – paratoi ar gyfer asesiadau, asesiadau wedi’u hamseru, darllen testunau ac ymarfer cwestiynau arholiad.
CYFLEOEDD ALLGYRSIOL
Mae’r Adran yn ymwneud â gweithgareddau Erasmus, gweithdai Business Language Champion ac ymweliadau ag Adran ITM Prifysgol Aberystwyth.