Mathemateg
Mrs Adèle Farr - Pennaeth Adran
Mrs Tracey Edwards
Mrs Teleri Morris-Thomas
Miss Lorna Worrall
Crewyd rhywfaint o’r cynnwys hwn cyn i reolau Covid-19 ddod i rym.
EIN GWELEDIGAETH
Fel adran, rydym yn gweithio i sicrhau bod pob un o’n myfyrwyr, beth bynnag fo’u gallu, yn adeiladu ar eu cryfderau, ac yn datblygu eu dealltwriaeth a’u mwynhad o Fathemateg. Mae gennym ddisgwyliadau uchel o’n holl fyfyrwyr; rydym am i bawb fod yn unigolion hapus, gweithgar, hyderus, yn barod i dderbyn her, gan roi cynnig ar bob problem a gyflwynir.
Mae ein dosbarthiadau Mathemateg yn amgylcheddau croesawgar, diogel, lle mae myfyrwyr yn gwybod y gallant gyfrannu at drafodaethau, rhannu syniadau a gofyn cwestiynau i wella neu hyrwyddo eu dysgu.
Nid ydym byth yn amau potensial ein myfyrwyr – maent yn parhau i’n hysbrydoli a’n cymell bob dydd.
CA3
Yng Nghyfnod Allweddol 3, mae ein cwricwlwm cyfredol wedi’i drefnu yn Unedau, sy’n cynnwys Rhif, Algebra, Siâp, Gofod a Mesurau a Thrin Data; mae’r isod yn enghraifft o un o’r unedau dan sylw.
CA4
Mae ein Cynllun Gwaith yng Nghyfnod Allweddol 4 wedi’i drefnu yn 5 tymor. Rydym yn dilyn manylebau WJEC Mathemateg a Rhifedd Mathemateg ar gyfer Haenau Uwch, Canolradd a Sylfaenol. Gellir gweld copi o’r manylebau ar wefan CBAC.
Rydym yn tanysgrifio i adnoddau digidol i gynorthwyo ein dysgwyr, er enghraifft TTRockstars a MathsWatch; felly bydd modd i bob un o’n myfyrwyr gael gafael ar gymorth ychwanegol fel hyn.
Manyleb: https://www.cbac.co.uk/cymwysterau/mathemateg-tgau/
CA5
Yng Nghyfnod Allweddol 5 rydym yn dilyn manyleb Lefel ‘A’ CBAC, sy’n cynnwys 4 modiwl; Dyfernir Lefel ‘AS’ ar ddiwedd Blwyddyn 12.
DYSGU YN Y CARTREF
Mae polisi’r Ysgol yn nodi:
Ym Mlynyddoedd 7, 8 a 9, dylid gosod hyd at 30 munud o waith cartref Mathemateg bob wythnos.
Ym Mlynyddoedd 10 ac 11, dylid gosod hyd at 1 awr o waith cartref Mathemateg bob wythnos.
Ym Mlynyddoedd 12 a 13, dylid gosod hyd at 2 awr o waith cartref Mathemateg bob wythnos.