INSET DAY - FRIDAY 30TH OF JUNE - SCHOOL WILL BE CLOSED

Adeiladwaith (BTEC)

Miss Yvonne Howells, Pennaeth Adran

Mr Dominic Bromley

Crewyd rhywfaint o’r cynnwys hwn cyn i reolau Covid-19 ddod i rym.

YSTAFELLOEDD AC ADNODDAU

Fe addysgir y cymhwyster galwedigaethol hwn yn stiwdio a gweithdy dylunio’r adran Ddylunio a Thechnoleg, lle mae disgyblion yn datblygu eu gwybodaeth bynciol a’u sgiliau gwaith coed. Mae gennym hefyd adeilad pwrpasol fel y gall disgyblion ddatblygu eu sgiliau bricio trwy gydol y flwyddyn.

Y CWRICWLWM – TROSOLWG BRAS

Gweithredwn ar y cysyniad o ‘cynllunio, gwneud, adolygu’.

Ym Mlwyddyn 10 bydd disgyblion yn ennill ac yn cymhwyso gwybodaeth am ddiogelwch wrth adeiladu, gan ddysgu am rolau a chyfrifoldebau o dan amrywiol reoliadau. Bydd y disgyblion yn nodi ac yn deall y defnydd o arwyddion diogelwch a diffoddwyr tân. Byddant hefyd yn nodi peryglon mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd ac yn deall a gweithredu rheolaethau i leihau risg. Bydd hyn yn cael ei asesu’n allanol gan ddefnyddio platfform arholi ar-lein. Mae disgyblion hefyd yn meithrin eu sgiliau adeiladu i gynnwys sgiliau gwaith saer, paentio a gosod brics trwy gymryd rhan mewn prosiectau bach.

Ym Mlwyddyn 11 mae disgyblion yn cwblhau dwy uned arall: Sgiliau Adeiladu Ymarferol a Chynllunio Prosiectau Adeiladu. Mae hyn yn caniatáu’r disgyblion i gymhwyso’r wybodaeth a ddysgwyd ym Mlwyddyn 10 i brosiectau cyfredol. Bydd y disgyblion yn cynllunio’r tasgau adeiladu ac yna’n cynhyrchu strwythur parhaol o amgylch yr Ysgol. Ar hyn o bryd, rydym wedi bod yn creu meinciau ar draws yr Ysgol i arddangos sgiliau bricio, gwaith saer a phaentio’r disgyblion.

Manyleb: https://www.cbac.co.uk/media/wugkketr/wjec-level-1-2-award-in-ctbe-spec-w-02-10-20.pdf

DYSGU YN Y CARTREF

Mae athrawon yn uwchlwytho aseiniadau i Hwb ac yn creu tasgau dysgu cyfunol fel y gall pob disgybl ddysgu o gartref.

Mae llawer o ddisgyblion yn parhau i astudio Adeiladwaith yn y coleg neu’n astudio Dylunio Cynnyrch yn y Chweched Dosbarth. Mae rhai hefyd yn mynd yn brentisiaid i gwmnïau lleol.