Dymuna’r Ysgol ddiolch i’r Cambrian News sy’n darparu papur newydd i ni yn wythnosol bellach. Rhoddir y cyfle i ddisgyblion ddarllen y papur tra’n treulio amser yn y llyfrgell. Gweler y llun atodedig o ddisgyblion Blwyddyn 12 (sy’n rhan o’r un swigen) yn mwynhau treulio amser yn y llyfrgell ar ei newydd wedd!