INSET DAY - FRIDAY 30TH OF JUNE - SCHOOL WILL BE CLOSED

Dylunio a Thechnoleg

Yvonne Howells - Pennaeth Adran

Ruth Humphreys - Ffasiwn a Thecstiliau

Sharon Morgan - Bwyd a Maeth

Gemma Roberts

Dominic Bromley

Daryl Walters - Technegydd

Crewyd rhywfaint o’r cynnwys hwn cyn i reolau Covid-19 ddod i rym.

EIN GWELEDIGAETH

Ein gweledigaeth yw datblygu sgiliau disgyblion fel eu bod yn dod yn ddatryswyr problemau annibynnol trwy weithio ar heriau lle gallant gymhwyso eu sgiliau, eu profiadau a’u gwybodaeth i ddylunio a gwneud cynhyrchion o fewn gwahanol feysydd pwnc Dylunio a Thechnoleg.

YSTAFELLOEDD AC ADNODDAU

Mae’r bloc DT wedi’i adeiladu’n bwrpasol i ddarparu pob maes pwnc Dylunio a Thechnoleg.

Mae ganddo stiwdio ddylunio wedi’i dodrefnu’n llawn gyda 21 o gyfrifiaduron, argraffydd 3D, peiriant laser a thorrwr finyl ac mae yna hefyd ystafell ar gyfer y peiriannau CNC.

Mae’r ystafell electroneg yn caniatáu i bob disgybl yn y grŵp i sodro a chydosod cylchedau ar yr un pryd tra bod hefyd digon o le i ysgrifennu a dylunio tasgau.

Mae yna amrywiaeth fawr o offer a pheiriannau sy’n cael eu defnyddio ym mhob cyfnod allweddol.

Yn yr ystafell Ffasiwn a Thecstilau mae llawer o gyfarpar yn cynnwys peiriannau gwnïo, gor-loceri, peiriannau brodwaith digidol ac argraffydd sublimation a Press Press, ac mae myfyrwyr yn defnyddio’r torrwr laser yn rheolaidd i dorri ffabrig.

Dyluniwyd yr ystafell ddosbarth Bwyd a Maeth i ddarparu ar gyfer gwersi theori ac ymarferol. Mae’n llawn offer gyda phoptai, offer coginio, adnoddau a mannau golchi llestri.

CA3

Rhennir disgyblion CA3 yn grwpiau a byddant yn dilyn cylchdroadau Bwyd a Maeth, Tecstiliau a Dylunio Cynnyrch.

Blwyddyn 7

Y flaenoriaeth ym mlwyddyn 7 yw i ddisgyblion ddysgu sut i baratoi, storio a defnyddio cynhwysion, dewis deunyddiau, dylunio a defnyddio offer yn ddiogel ac yn gywir.

Yn y gwersi Tecstiliau, mae disgyblion yn dysgu sut i ddefnyddio’r peiriannau gwnïo a brodwaith digidol wrth wneud hetiau personol sydd wedi’u cynllunio ganddyn nhw eu hunain.

Yn y gwersi Bwyd a Maeth, mae disgyblion yn dysgu sut i ddewis, pwyso a pharatoi cynhwysion, a chynhyrchu a storio prydau maethlon. Mae hyn yn cynnwys paratoi salad ffrwythau, coginio stir-fry a phitsa. Mewn gwersi theori, mae disgyblion yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o faetholion, canllaw bwyta’n dda, egni mewn bwyd a sut i ddilyn diet iach.

Yn y gwersi Dylunio Cynnyrch, mae disgyblion yn gorfod gwneud penderfyniadau gwybodus am eu dewis o fetelau a phlastigau, yna maent yn modelu, dylunio a chynhyrchu deiliad cannwyll a Mi pod, gan ddefnyddio amrywiaeth o offer a phrosesau llaw.

Blwyddyn 8

Ym mlwyddyn 8 mae disgyblion yn datblygu eu sgiliau ymhellach mewn Tecstiliau trwy ddysgu technegau addurniadol fel clytwaith ac applique wrth ddylunio a gwneud clustogau.

Yn y gwersi Bwyd a Maeth, mae disgyblion yn datblygu dealltwriaeth o fwyd o bob cwr o’r byd, gan edrych ar ddylanwadau diwylliannol, tarddiad bwyd, milltiroedd bwyd a gwastraff bwyd. Mae disgyblion yn dewis addasu cynhwysion ar gyfer amrywiaeth o brydau bwyd fel bolognaise, tsili, cyri a phrydau melys amrywiol sy’n gysylltiedig â’r gwaith theori a wneir.

Yn y gwersi Dylunio Cynnyrch mae disgyblion yn defnyddio meddalwedd 2D i fodelu dyluniadau sydd wedyn yn cael eu torri allan gan ddefnyddio’r peiriant laser. Mae disgyblion yn cynhyrchu mowld yn seiliedig ar ddiwylliant Celtiaid Cymru ac yn dilyn proses o gastio er mwyn creu gemwaith Piwter neu gylch allweddi. Maent hefyd yn dysgu sut mae cams a dilynwyr yn gweithio er mwyn dylunio a chynhyrchu tegan mecanyddol.

Blwyddyn 9

Ym Mlwyddyn 9, mae disgyblion yn dewis dau faes pwnc i’w hastudio.

Os yn dewis Tecstiliau, rhoddir rhyddid i ddisgyblion ddatblygu eu brîff eu hunain yn seiliedig ar gyd-destun eang. Mae hyn yn galluogi disgyblion i ddatblygu eu sgiliau dadansoddi wrth baratoi ar gyfer y cwrs TGAU.

Pe bai disgybl yn dewis astudio Bwyd a Maeth, mi fyddent yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau pobi yn yr her bobi. Mae disgyblion yn dysgu sut i wneud tartenni crwst shortcrust, rholiau selsig, myffins, bara (melys a sawrus) a quiche. Mae disgyblion hefyd yn ymchwilio ac yn datblygu eu gwybodaeth am swyddogaethau cynhwysion ac yn gwneud ymchwil gwyddonol wrth baratoi ar gyfer y cwrs Bwyd a Maeth TGAU.

Yn y gwersi Dylunio Cynnyrch, rhoddir cyfle i ddisgyblion ddechrau defnyddio’r dull dylunio ailadroddol y byddant yn ei ddefnyddio yn CA4. Maent yn edrych ar sut y gallant fel dylunwyr ystyried cynaliadwyedd y cynnyrch wrth ddatrys problem a roddir iddynt. Yna, mae disgyblion yn defnyddio amrywiaeth o brosesau dylunio a gweithgynhyrchu i gynhyrchu cynnyrch wrth ganolbwyntio ar ei ansawdd a’i orffeniad.

CA4: BWYD A MAETH

Mae disgyblion sy’n dewis astudio Bwyd a Maeth yng CA3 yn dilyn rhaglen astudio gadarn sy’n parhau i ddatblygu eu technegau cynllunio a pharatoi bwyd, eu sgiliau coginio a’r galluoedd y maent wedi’u hennill a’u datblygu yn CA3.

Mae prif gydrannau theori y gwaith yn cynnwys: nwyddau bwyd, egwyddorion maeth, diet ac iechyd, gwyddoniaeth bwyd ac o ble mae bwyd yn dod. Mae sesiynau ymarferol yn cydfynd â’r unedau gwaith sy’n cael eu hastudio dros y ddwy flynedd.

Adfernir eich gradd yn y cwrs drwy arholiad (40%) a gwaith cwrs (60%) sy’n cynnwys dau Asesiad Heb Arholiad, ymchwiliad gwyddor bwyd ac ymateb personol i friff penodol.

Ar ddiwedd Blwyddyn 11, bydd disgyblion yn sefyll arholiad allanol sy’n werth 40% o’r marc cyffredinol.

CA4: FFASIWN A THECSTILIAU

Mae Blwyddyn 10 yn gyfle i gyflawni prosiectau ymarferol byr gyda’r amcan o ddatblygu sgiliau a gwybodaeth penodol.

Dyma rhai enghreifftiau…

Daliwr Drws: Arddangos dealltwriaeth o ddulliau llifo ac addurno ffabrig.

Addurniadau Nadolig: Defnydiio CAD CAM i weithgynhyrchu eitemau ar raddfa fawr, gan ddatblygu gwybodaeth o wahanol raddfeydd cynhyrchu.

Hwdi: Datblygu sgiliau gwniadwaith a dealltwriaeth o brosesau adeiladu.

Yn ystod Blwyddyn 11, bydd disgyblion yn dylunio a gwneud eitem gan ymateb i gyd-destyn a osodir gan y Bwrdd Arholi.

CA4: DYLUNIO CYNNYRCH

Bydd disgyblion sy’n dewis astudio Dylunio Cynnyrch TGAU yn cwblhau amrywiaeth o brosiectau byr ym Mlwyddyn 10 trwy ddefnyddio’r broses ddylunio ailadroddol.

Gallant ddadansoddi cynhyrchion sy’n bodoli eisoes, ennill gwybodaeth a gwneud penderfyniadau gwybodus am ddewisiadau materol a dulliau gweithgynhyrchu.

Mae disgyblion hefyd yn datblygu eu sgiliau lluniadu a modelu fel y gallant gyfleu syniadau dylunio yn effeithiol, gan edrych ar ddymuniadau, anghenion a gwerthoedd y cwsmer.

Ymhlith y prosiectau mae dylunio daliwr canhwyllau lle mae’r strwythurau wedi eu dylanwadu gan waith dyn, gan ddangos eu dealltwriaeth a’u defnydd o brosesau gweithio metel.

Mae cysylltiadau â’r gymuned yn caniatáu i ddisgyblion ddilyn briff gwirioneddol a osodir gan bobl leol. Mae hyn yn rhoi cyfle iddynt i siarad â’r cwsmer a chyfleu eu syniadau iddynt ac yna cynhyrchu’r cynnyrch.

Defnyddir dulliau cynhyrchu CAD CAM fel yr argraffydd 3D, torrwr laser a’r torrwr CNC er mwyn cynhyrchu cynhyrchion arloesol i’w gwerthu yn y Ffair Nadolig.

Ym Mlwyddyn 11, mae disgyblion yn dewis o dair her gyd-destunol sy’n cael eu gosod gan y bwrdd arholi. Mae’r prosiect hwn werth 50% o’r marciau cyffredinol a ddyfarnir. Gellir cymhwyso eu gwybodaeth hefyd i ymarfer cwestiynau arholiad wrth baratoi ar gyfer yr arholiad a asesir yn allanol ac sydd yn werth 50% o’r cymhwyster.

CA5: FFASIWN A THECSTILIAU

Daw cyfle pellach i astudio Ffasiwn ar lefel ddyfnach yn y 6ed Dosbarth a ceir cyfle i fyfyrwyr ddylunio a chreu eitemau mewn ymateb i friffiau o ddewis personol.

Mae sawl cyn-ddisgybl bellach yn astudio Ffasiwn ac yn gobeithio datblygu gyrfa yn y maes.

CA5: DYLUNIO CYNNYRCH

Cynigir Dylunio Cynnyrch yn CA5. Ar gyfer y cwrs UG a Safon Uwch, bydd gofyn i ddisgyblion sefyll un arholiad ysgrifenedig a asesir yn allanol a chynhyrchu un dyluniad a gwneud tasg o’u dewis.

Bydd disgyblion y Chweched Dosbarth sy’n dewis y pwnc hwn yn datblygu’r gallu i feddwl yn greadigol, yn arloesol ac yn feirniadol trwy dasgau ymchwil. Bydd disgyblion yn cychwyn ac yn datblygu datrysiadau dylunio wrth wneud a phrofi prototeipiau. O hyn, bydd disgyblion yn gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch arloesi a chynhyrchu dyluniad cynnyrch.

Byddant hefyd yn cael cyfle i ddefnyddio prosesau cynhyrchu traddodiadol a modern er mwyn cynhyrchu cynnyrch o safon sy’n addas at y diben.

CYFLEOEDD ALLGYRSIOL

Mae disgyblion yn cael llawer o gyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau mewn Dylunio a Thechnoleg ac mae sawl disgybl wedi cael eu dewis i ddangos eu gwaith yng ngwobrau arloesi Cymru.

Rydym hefyd yn dathlu cyflawniadau disgyblion yn yr adran trwy gynnal te parti diwedd tymor lle mae’r Uwch Dîm Rheoli a’r Llywodraethwyr yn cyflwyno tystysgrifau i gydnabod arloesedd a chreadigrwydd ymhlith disgyblion unigol.

Mae disgyblion yn cael cyfleoedd i weithio’n annibynnol a chynhyrchu cynhyrchion ar gyfer yr Ysgol a chystadlaethau Eisteddfod cenedlaethol.

Mae llawer yn cymryd rhan yn heriau STEM Ysgolion Gorllewin Cymru a phrosiectau cystadlu cenedlaethol fel y prosiect Gwlân i Ysgolion.

Mae disgyblion hefyd yn cymryd rhan yng nghystadlaethau cogydd ifanc y flwyddyn gyda’r Rotari.

DYSGU YN Y CARTREF

Gall disgyblion gyrchu tasgau trwy Teams Hwb. Gosodir gwaith i’w gwblhau’n annibynnol gan ddefnyddio Classcharts, apiau, meddalwedd fel Pinterest, AutoCAD Fusion a Quizlet. Mae’r dull dysgu cyfunol hwn yn caniatáu i ddisgyblion gael mynediad at waith o gartref. I ddysgu mwy am Ffasiwn a Thecstilau yn Ysgol Gyfun Aberaeron, chwiliwch am YGATecstiliau.