INSET DAY - FRIDAY 30TH OF JUNE - SCHOOL WILL BE CLOSED

Parentpay

Mae Ysgol Gyfun Aberaeron wedi symud i’r system ParentPay newydd, byddwch yn gallu talu ar-lein gan ddefnyddio eich cerdyn credyd / debyd ar gyfer arian cinio, tripiau ysgol, ac ati. Rydym hefyd yn defnyddio ParentPay i anfon llythyrau a hysbysiadau felly mae’n bwysig i chi actifadwch eich cyfrif hyd yn oed os nad ydych yn talu am ginio ysgol.

Yn lle anfon arian i’r ysgol gallwch ychwanegu at gyfrif eich plentyn ar-lein.

Os yw eich plentyn ar Brydau Ysgol am Ddim byddwch yn gallu gwirio cyfrif eich plentyn, a gweld yn union beth mae’n ei brynu a phryd.

I ddechrau, gallwch ofyn am e-bost actifadu i’ch galluogi i sefydlu’ch cyfrif ParentPay. Mae’r llythyr hwn yn cynnwys enw defnyddiwr actifadu personol a chyfrinair i’ch galluogi i fewngofnodi. Yna gallwch chi newid eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair i rywbeth haws i’w gofio. Gallwch hefyd gyfuno’ch cyfrifon os oes gennych fwy nag un plentyn yn Ysgol Gyfun Aberaeron fel mai dim ond un mewngofnod sydd gennych i wneud taliadau ar gyfer eich holl blant.

Mae ParentPay yn cynnig gwefan talu diogel iawn, sy’n dangos cofnod i chi o’r holl drafodion a’r holl eitemau sydd ar gael i’w talu. Mae derbynneb eich taliad yn cael ei e-bostio atoch ar ôl pob trafodiad.

Anfonir gwybodaeth at rieni cyn i ddisgyblion ddechrau yn Ysgol Gyfun Aberaeron ym Mlwyddyn 7. Os bydd eich plentyn yn ymuno â ni ar ôl yr amser hwn, neu os nad ydych yn derbyn eich e-bost cysylltwch â ni drwy e-bost ar parentpay@ygaberaeron.org.uk neu ffon 01545 570 217.

Os ydych chi’n cael problemau wrth greu neu gael mynediad i’ch cyfrif ParentPay yn gyntaf edrychwch ar dudalen gymorth ParentPay. Os na allwch ddod o hyd i’r ateb yma cysylltwch â’r ysgol ar parentpay@ygaberaeron.org.uk neu 01545 570 217.