INSET DAY - FRIDAY 30TH OF JUNE - SCHOOL WILL BE CLOSED

e-Ddiogelwch

Beth yw e-Ddiogelwch?

Yn fyr, e-Ddiogelwch i ni fel ysgol yw sicrhau bod ein disgyblion a’n staff yn ddiogel wrth ddefnyddio technoleg o ddydd i ddydd.  Mae systemau yn eu lle i wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd.

Beth a olygir gan y term ‘technoleg’?

Mae technoleg yn derm eang.  Pan yn son am ‘dechnoleg’ gallwn olygu cyfrifiaduron, gliniaduron, tabledi, ffonau symudol a’r rhyngrwyd.

Sut mae’r Ysgol yn hybu e-Ddiogelwch?

Rydym yn darparu amgylchedd weithio ddiogel i ddisgyblion. Gwneir hyn trwy fonitro a hidlo mynediad disgyblion at adnoddau addas yn unig tra ar dir yr ysgol.

Sut mae’r Ysgol yn addysgu disgyblion am e-Ddiogelwch?

Rydym yn rhagweithiol wrth addysgu ein disgyblion am agweddau o e-Ddiogelwch.  Mae disgyblion yn dysgu am:

  • Defnyddio rhwydweithio cymdeithasol (Facebook, Instagram ac ati) yn ddiogel
  • Ymddygiad ar-lein, bwlian ar-lein, parchu eraill, ‘sxto’
  • Ôl-troed ddigidol, rhannu gwybodaeth bersonol ac enw ar-lein
  • Amddiffyn data, cadw’ch hun yn ddiogel, hacio
  • Beth i’w wneud pan ai rhywbeth o’i le (e.e. lanlwytho rhywbeth trwy ddamwain) – pwy i gysylltu yn yr Ysgol

 

Dyma ffilm a gynhyrchwyd gan Childnet. Mae’n dangos elfen gref o Seibrfwlio ac yn adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd i’r dioddefwr yn y broses.

 

Oes cymorth ychwanegol ar gael?

Disgyblion: Gall ddisgyblion ofyn i unrhyw aelod o staff am gymorth neu gyngor os ydynt yn pryderu am unrhyw agwedd o e-Ddiogelwch.

Rhieni/ Gofalwyr: Os oes gennych chi fel rhiant neu ofalwr unrhyw bryderon am e-Ddiogelwch neu ddefnydd eich plentyn o TGCh yn yr ysgol, yna cysylltwch gyda’r ysgol yn syth.

Os oes argyfwng, cysylltwch â 999

CEOP - Child Exploitation and Online Protection Centre

Ydych chi’n poeni am eich plentyn?
Oes rhywun wedi gwneud i chi deimlo’n od neu’n anghyffyrddus ar-lein?
Canolbwynt gwybodaeth, cymorth a chyngor

UK Safer Internet Centre

Cyngor ar e-ddiogelwch, cyngor ac adnoddau i helpu plant a phobl ifanc i aros yn ddiogel ar y rhyngrwyd.

Internet Matters

Canllaw sy’n dynodi pa oed sydd angen i’ch plentyn chi fod er mwyn defnyddio cyfryngau cymdeithasol penodol.

UK Safer Internet Centre: Parents and Carers

Mae rhieni a gofalwyr yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi eu plant i ddysgu.
Cewch gyngor yma ar beth i’w wneud os bydd eich plentyn yn gofyn am gymorth.

Childnet International

Cwestiynau ac atebion ar bynciau llosg yn ymwneud ag e-Ddiogelwch. Cyfeirir at bynciau megis Seibrfwlio, Gosodiadau Preifatrwydd, Lles Digidol a mwy.

UK Safer Internet Centre: Resources for 11-19s

Mae’r rhyngrwyd yn lle ardderchog i chi ddarganfod pethau newydd ac i fod yn greadigol.

Yma, dewch o hyd i gemau, cwis, posau a chyngor ar sut i ddefnyddio’r we yn ddiogel, yn gyfrifol ac yn gadarnhaol.