INSET DAY - FRIDAY 30TH OF JUNE - SCHOOL WILL BE CLOSED

Croeso – gan y Pennaeth

Pleser yw cyflwyno’r wefan newydd hon i chi. Bydd newyddion diweddaraf yr Ysgol yn ymddangos yma ac felly rwyf yn eich annog i ymweld â’r wefan yn rheolaidd er mwyn cael cipolwg ar fwrlwm Ysgol Gyfun Aberaeron.

Mae Ysgol Gyfun Aberaeron yn gymuned glós, fywiog a naturiol ddwyieithog sy’n meddu ar ethos sy’n adlewyrchu’r ardal yn nhermau iaith a diwylliant.

Ymfalchïwn yn yr hanes hir o lwyddiant sydd i’r Ysgol yn academaidd ac mewn amryw o feysydd allgyrsiol, a’r gefnogaeth bersonol a gaiff pob disgybl. Mae ein partneriaeth agos gyda’r cartref yn bwysig i ni er lles a llwyddiant ein disgyblion a gobeithio bydd y wefan hon yn cryfhau’r berthynas hanfodol honno.

Darllenwch ymlaen am ragor o wybodaeth ac os oes gennych ymholiad cofiwch gysylltu â mi yn yr Ysgol.

Mr Owain Jones

Pennaeth

 

Cyflwyniad y Pennaeth

Ysgol Gyfun Aberaeron, Stryd y Fro, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0DT | 01545 570 217

Ysgol Gyfun Aberaeron