INSET DAY - FRIDAY 30TH OF JUNE - SCHOOL WILL BE CLOSED

 Y Chweched Dosbarth

Gofynion mynediad

  • Lleiafswm o 5 gradd TGAU A*-C
  • I astudio Mathemateg Lefel A- o leiaf gradd B ar yr Haen Uwch yn TGAU
  • I astudio Bioleg / Cemeg / Ffiseg – o leiaf gradd B yn y wobr ddwbl yn TGAU (neu’r wobr driphlyg)

Pa bynciau a gynigir yn y Chweched?

Art & Design            Biology                 Business Studies(BTEC partnership course)     Chemistry    

        Criminology (e-sgol)      Cymraeg         Daearyddiaeth          Drama(partnership course)      

DT Product Design          English Literature        French         History          Health and Social Care      

IT Cambridge Technical Level 3              Mathematics           Further Mathematics (e-sgol)          Media Studies                     Physical Education (BTEC)        Photography                    Physics                            

                            Religious Education                      Textiles & Fashion (*Cedwir yr hawl i beidio rhedeg cyrsiau os nad oes niferoedd digonol)

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth neu i drefnu ymweliad; 01545 570217 swyddfa@ygaberaeron.org.uk

Ambiwlans Awyr Cymru a’r Chweched Dosbarth. 

Mae hwn yn gyflawniad gwych, da iawn.

Gwobr Seren Chweched Dosbarth  Aberaeron

Yn ystod y tymor diwethaf bu rhai o fyfyrwyr Seren Blwyddyn 12 Ysgol Gyfun Aberaeron yn cymryd rhan yng Ngwobr Genedlaethol Seren. Roedd y myfyrwyr yn dewis pwnc ymchwil o’u dewis: dewisodd Jessica Jones y testun Cyfraith Ryngwladol; dewisodd Elin Howells Bio-Acwsteg a’i Effaith ar Fywyd Gwyllt; dewisodd Jake Willis Hanes a Gwyddorau Cymdeithasol gyda’r teitl ‘Pwy neu beth a wnaeth y Nadolig?’; dewisodd Caryl Shepherd Galar a Choffâd yn y Gymdeithas Fictoraidd a Neo-Fictoraidd. Bu’r myfyrwyr chweched dosbarth hyn yn gweithio gyda myfyrwyr PhD dynodedig, gan gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr academaidd hynod ddiddorol yn eu dewis bwnc er mwyn cynhyrchu aseiniad yn seiliedig ar ymchwil gan ddilyn arfer prifysgol. Cafodd pob asesiad ei raddio a darparwyd adborth manwl, gan ganiatáu i’r myfyrwyr ddatblygu eu harddull academaidd a’u gallu deallusol ymhellach. Yn ogystal ag arddangos meddwl annibynnol a thrylwyredd deallusol, a darparu deunydd o’r radd flaenaf ar gyfer Datganiadau Personol myfyrwyr, gall yr aseiniadau mwyaf llwyddiannus weithiau ysgogi prifysgolion i adolygu eu gofynion cynnig/mynediad. Dyna beth yw clod. Da iawn, bob myfyriwr.

Chweched Dosbarth Aberaeron – Hyfforddi Cymorth Cyntaf ac ACP

Ar ddiwedd tymor y Nadolig cafodd myfyrwyr Blwyddyn 12 a 13 hyfforddiant dwys mewn Gymorth Cyntaf ac ACP fel rhan o’u rhaglen ABCh. Cwblhaodd yr holl fyfyrwyr a gymerodd ran ddiwrnod llawn o hyfforddiant ac asesiadau ymarferol, yn ogystal ag arholiad ysgrifenedig, gan ennill cymhwyster ITC Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith. Diolch i Miss Rachel Phillips am ddarparu’r hyfforddiant.

Myfyrwyr Chweched Dosbarth Aberaeron yn paratoi ar gyfer Gwobr Dug Caeredin

Yn ddiweddar mynychodd criw o fyfyrwyr Blwyddyn 12 eu hail sesiwn hyfforddi gyda Phadlwyr Llandysul ar gyfer Gwobr Aur Dug Caeredin y byddant yn ei chwblhau yn ystod Tymor yr Haf. Dros y misoedd diwethaf mae’r myfyrwyr wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau creu tîm ac wedi bod yn dysgu sgiliau a thechnegau newydd ar gyfer yr alldeithiau canŵio yn yr Haf. Dywedodd Dylan Gwynne-Jones, un myfyriwr chweched dosbarth: ‘Mae’n bleserus iawn ac rydyn ni’n cael dysgu sgiliau newydd nad oedd gennym ni o’r blaen’. Dywedodd y myfyriwr chweched dosbarth Jake Willis ‘Roedd gweithio gyda’n gilydd mewn tîm yn brofiad da. Edrychaf ymlaen at yr alldaith ar afon Gwy yn yr Haf’. Pob lwc i’r holl ddisgyblion sy’n cymryd rhan eleni.

Myfyriwr Chweched Dosbarth yn Aberaeron yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru

Bu hi’n dymor prysur i Poppy Evans, myfyriwr chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Aberaeron, sy’n cynrychioli barn pobl ifanc Ceredigion yn Senedd Ieuenctid Cymru. Yn ystod y tymor, mae Poppy wedi bod yn gweithio ar y grant ‘Mind our Future’ sy’n gynllun ar y cyd gydag elusennau a sefydliadau fel Ardal 43 er mwyn gwneud cais am arian Loteri i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc. Rhoddodd Poppy gyflwyniad i banel y Loteri a chynrychiolwyr o wahanol elusennau ar yr hyn sydd ei angen ar bobl ifanc Ceredigion yn yr ardal. Mae Poppy hefyd yn gweithio ar brosiect arall ar hyn o bryd, yn casglu gwybodaeth am yr hyn y mae pobl ifanc yn ei feddwl y dylid ei wneud i helpu ein hamgylchedd ac mae hi wedi siarad a gweithio gyda chlwb Eco Ysgol Gyfun Aberaeron. Mae Poppy yn cyfarfod yn fisol ac yn rhoi adborth i Adran Addysg Cyngor Sir Ceredigion gyda Lloyd Warburton o Ysgol Penglais sy’n gyd-Aelod yn y Senedd Ieuenctid.

Aled Lewis, Chweched Dosbarth yn Aberaeron, wedi ei ethol fel Aelod Seneddol  Ieuenctid Deyrnas Unedig Ceredigion 2022 – 2023