INSET DAY - FRIDAY 30TH OF JUNE - SCHOOL WILL BE CLOSED

Gwyddoniaeth

Mrs Sian Kedward Jones - Pennaeth Adran

Mrs Betsy Snow

Mrs Helen Crouch

Mr Niall McGinty

Mr Steven Rees

Miss Sian Evans

Mae athrawon yr adran i gyd yn arbenigwyr pwnc. Mae’r ddarpariaeth i’r holl ddisgyblion o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 13 felly o’r safon uchaf a gwybodaeth a phrofiad yr athrawon yn rhoi’r cyfle gorau posib i’r disgyblion. 

GWELEDIGAETH

Gwyddoniaeth sydd yn ein galluogi i ddeall beth sy’n digwydd o’n cwmpas, sy’n ein dysgu sut i edrych ar ôl ein hunain a’n amgylchedd ac sy’n golygu bod dynol ryw yn parhau i arloesi a datblygu.  Gweledigaeth yr adran yw datblygu disgyblion ymholgar, brwdfrydig sydd am ddarganfod sut mae’r byd, y bydysawd a phopeth sy’n rhan ohono yn gweithio. Rydym am wneud hyn trwy ddatblygu sgiliau ymholi ac annibynoldeb disgyblion gan ddarparu cyfleoedd ymarferol ac allgyrsiol cyson.

YSTAFELLOEDD AC ADNODDAU

Mae gan yr Adran Wyddoniaeth saith lab, â phob un yn cynnwys yr offer angenrheidiol ar gyfer gwaith ymarferol. Mae gan yr adran adnoddau i ganiatau bod pob disgybl sy’n astudio Gwyddoniaeth yn cael profiadau uniongyrchol o arbrofi a chwblhau gwaith ymarferol. Gall yr adran hefyd ddarparu offer a chefnogaeth arbenigol i ddisgyblion sy’n astudio’r gwyddorau hyd at lefel A. Rydym yn ffodus iawn o’r Technegydd Gwyddoniaeth sydd gennym sef Mrs Anne Farr.

CA3

Bydd disgyblion yn cael cyfle i astudio’r gwyddorau o Flwyddyn 7 lle bydd disgyblion yn cael eu dysgu mewn grwpiau cymysg o ran gallu. Ym Mlwyddyn 8, bydd disgyblion yn cael eu dysgu mewn setiau.

Yng Nghyfnod Allwedd 3, bydd disgyblion yn astudio amrwyiaeth o destunau sy’n rhoi cyflwyniad iddynt i Fioleg, Ffiseg a Chemeg ac yn dabtlygu eu sgiliau yn barod i’r cyrsiau TGAU.

CA4

I’r disgyblion sy’n mwynhau ac yn gwneud cynnydd da mewn Gwyddoniaeth, mae opsiwn iddynt astudio TGAU unigol yn y tri maes – Bioleg, Cemeg a Ffiseg. Byddai hyn yn golygu 15 o wersi y pythefnos o Wyddoniaeth.

Mae gan bawb yr opsiwn hefyd i astudio Gwyddoniaeth Ddwbl. Bydd hyn yn golygu astudio agweddau o Ffiseg, Cemeg a Bioleg am gymhwyster sy’n cyfateb i 2 TGAU.  Byddai hyn yn golygu 10 o wersi pob pythefnos. Bydd disgyblion yn cael athro arbenigol ar gyfer pob un o’r gwyddorau.

Manyleb Gwyddoniaeth Driphlyg (Bioleg): https://www.cbac.co.uk/media/l3hk4wwr/wjec-gcse-biology-spec-from-2016-w-01-09-2020.pdf

Manyleb Gwyddoniaeth Driphlyg (Cemeg): https://www.cbac.co.uk/media/tiel0tmp/wjec-gcse-chemistry-spec-from-2016-w-01-09-2020.pdf

Manyleb Gwyddoniaeth Driphlyg (Ffiseg): https://www.cbac.co.uk/media/acuay02q/wjec-gcse-physics-spec-from-2016-w-01-09-2020.pdf

Manyleb Gwyddoniaeth Ddwbl: https://www.cbac.co.uk/media/4lnbam5e/wjec-gcse-science-double-award-spec-from-2016-w-01-09-2020.pdf

CA5

Mae gan ddisgyblion sy’n ennill gradd B neu’n uwch yn eu cyrsiau TGAU opsiwn i astudio Gwyddoniaeth ar gyfer Lefel A. Gellir dewis un neu fwy o’r pynciau – Bioleg, Cemeg a/neu Ffiseg. Eto, dysgir y pynciau gan athrawon sy’n arbenigwyr pwnc.

Mae hanes hir o lwyddiant gan yr Adran Wyddoniaeth yn y maes hwn ac rydym yn falch iawn o’r cyfradd o ddisgyblion sy’n parhau i astudio yn y meysydd gwyddonol yn y Brifysgol a thu hwnt.

Manyleb Bioleg: https://www.cbac.co.uk/media/mr0cgl0u/tag-bioleg-manyleb-addysgu-o-2015-cymru-yn-unig.pdf

Manyleb Cemeg: https://www.cbac.co.uk/media/ehrdlqq5/wjec-gce-chemistry-spec-from-2015-w.pdf

Manyleb Ffiseg: https://www.cbac.co.uk/media/itgdu4l0/wjec-gce-physics-spec-from-2015-cbac.pdf

DYSGU YN Y CARTREF

Rydym yn annog disgyblion i ymholi yn gyson am yr hyn sydd o’u cwmpas. Mi fydd gwaith cartref yn cael ei osod yn reolaidd er mwyn datblygu sgiliau a gwybodaeth disgyblion.