Saesneg
Mrs Katie Jones - Pennaeth Adran
Mrs Gemma Owen
Mrs Colleen Roberts
Ms Alex Hobson
Crewyd rhywfaint o’r cynnwys hwn cyn i reolau Covid-19 ddod i rym.
GWELEDIGAETH
Ein gweledigaeth fel adran yw i gefnogi disgyblion i ddatblygu eu sgiliau llafar, darllen ac ysgrifennu, a’u paratoi at fyd gwaith. Gobeithiwn hefyd feithrin eu dealltwriaeth o farddoniaeth, rhyddiaith a dramau.
YSTAFELLOEDD AC ADNODDAU
Mae’r adran Saesneg wedi’i lleoli yn y bloc canol. Mae byrddau gwyn rhyngweithiol ac arddangosfeydd defnyddiol ym mhob ystafell ddosbarth.
CA3
Mae pob thema a astudir yn cynnwys ystod o dasgau llafar, darllen ac ysgrifennu, yn waith ffuglen a ffeithiol.
CA4
Bydd pob myfyriwr yn ennill cymhwyster Saesneg Iaith. Bydd rhai myfywyr yn astudio Lefel Mynediad cyn symud ymlaen i TGAU.
Bydd y mwyafrif yn ennill cymwysterau mewn TGAU Iaith a Llenyddiaeth.
Manyleb (Saesneg Iaith): https://www.cbac.co.uk/media/krviytuc/wjec-gcse-english-language-specification-2015-24-10-14-branded.pdf
Manyleb (Saesneg Llenyddiaeth): https://www.cbac.co.uk/media/ivcp2wsr/wjec_gcse_english_literature_-_specification_-for_teaching_from_2015_-_wales_only.pdf
CA5
Ar gyfer Lefel A, rydym yn cynnig Llenyddiaeth Saesneg CBAC sy’n cynnwys astudiaeth o farddoniaeth, rhyddiaith a drama.
Manyleb: https://www.cbac.co.uk/media/rwdp2iff/wjec-gce-english-lit-spec-from-2015-e-18-12-2019.pdf
DYSGU YN Y CARTREF
Yng Nghyfnod Allweddol 3, rhoddir llyfryn darllen a thaflen dasg ‘tsili’ i ddisgyblion gydag ystod o dasgau dysgu annibynnol.
Ar gyfer CA4 a CA5, ceir ystod o dasgau gan gynnwys paratoi ar gyfer asesiadau; ymchwil annibynnol; darllen; cwestiynau arholiad.
CYFLEOEDD ALLGYRSIOL
Yn ogystal, mae’r adran yn cynnig ystod o brofiadau allgyrsiol gan gynnwys ymweliadau a gweithdai.