Busnes
Miss Lorna Worrall
Crewyd rhywfaint o’r cynnwys hwn cyn i reolau Covid-19 ddod i rym.
GWELEDIGAETH
Ein gweledigaeth yw bod dysgwyr yn ymddiddori mewn Busnes am eu bod yn cymryd rhan weithredol yn y dysgu. Gallwn felly eu datblygu fel dysgwyr annibynnol, ac fel meddylwyr beirniadol a myfyriol sydd â meddyliau ymchwiliol ym myd Busnes.
YSTAFELLOEDD AC ADNODDAU
Addysgir yr holl wersi Busnes yn TG6 sy’n ystafell gyfrifiaduron. Rydym yn defnyddio Class Notebooks fel ffordd o storio’r holl adnoddau a thasgau dosbarth.
CA4: TGAU BUSNES
Addysgir Busnes ar lefel TGAU yn unig yn Ysgol Gyfun Aberaeron.
Cyflwynir y cynnwys mewn chwe maes pwnc clir ac unigryw:
- Gweithgaredd busnes
- Dylanwadau ar fusnes
- Gweithrediadau busnes
- Cyllid
- Marchnata
- Adnoddau Dynol
Asesir cynnwys y pwnc ar gyfer Busnes TGAU drwy gyfrwng dau bapur arholiad (Uned 1: Byd Busnes ac Uned 2: Canfyddiadau Busnes). Mae’r ddwy uned yn asesu cynnwys o’r chwe maes pwnc, felly bydd gofyn i ddysgwyr ddod â gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth ynghyd o bob rhan o’r cynnwys pwnc ym mhob asesiad.
Manyleb: https://www.cbac.co.uk/media/atyb1gii/tgau-busnes-manyleb-addysgu-o-2017-cymru.pdf
DYSGU YN Y CARTREF
Mae aseiniadau gwaith cartref wedi’u gosod ar Microsoft Teams yn seiliedig ar gyn-gwestiynau arholiad. Gall y disgyblion gwblhau’r rhain yn electronig neu atodi lluniau o’u hatebion ysgrifenedig.