Cerddoriaeth
Mrs Eleri Morgans - Pennaeth Adran
Miss Ceri Thomas
Crewyd rhywfaint o’r cynnwys hwn cyn i reolau Covid-19 ddod i rym.
GWELEDIGAETH
Ein prif fwriad yw i ddatblygu dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu hoes. Y gobaith yw y bydd y pobl ifanc hyn yn troi’n oedolion sydd yn hapus i gyflwyno eu hunain yn hyderus yn y dyfodol ac yn hapus i gymryd rhan mewn gweithgareddau cerddorol yn y gymuned y tu allan i’r Ysgol.
Y CWRICWLWM – TROSOLWG BRAS
Yn y gwersi Cerdd, byddwn yn datblygu’ch cymhelliant, gwydnwch a’ch sgiliau cyfathrebu. Byddwn yn meithrin eich gallu i asesu risg, gwneud penderfyniadau a dangos parch.
CA3
Byddwch yn derbyn dwy wers Gerddoriaeth yr wythnos yng Nghyfnod Allweddol 3 lle byddwch yn cwblhau gwaith ymarferol (lleisiol/ ar offeryn), gwaith gwrando a chyfansoddi.
CA4: TGAU CERDDORIAETH
Manyleb: https://www.cbac.co.uk/media/dtqir4qn/wjec-gcse-music-spec-from-2016-w.pdf
CA5: SU/ UG CERDDORIAETH
Manyleb: https://www.cbac.co.uk/media/avbldje1/wjec-gce-music-spec-from-2016-w.pdf