INSET DAY - FRIDAY 30TH OF JUNE - SCHOOL WILL BE CLOSED

Peirianneg

Yvonne Howells - Pennaeth Adran

Crewyd rhywfaint o’r cynnwys hwn cyn i reolau Covid-19 ddod i rym.

YSTAFELLOEDD AC ADNODDAU

Addysgir y pwnc yn yr adeilad Dylunio a Thechnoleg. Rydym yn defnyddio’r stiwdio Dylunio ar gyfer gwersi theori a thasgau CAD. Yma, mae modd i ddisgyblion ddefnyddio’r cyfrifiaduron neu’r desgiau i weithio arnynt. Datblygir sgiliau ymarferol yn y gweithdy peiriant a’r ystafell weldio sydd wedi’u dodrefnu’n llawn ag offer saernïo, turnau, driliau piler, weldwyr ac offer llaw.

TROSOLWG BRAS O’R CWRICWLWM

Mae BTEC Lefel 1/2 mewn Peirianneg yn gwrs galwedigaethol sy’n cynnig amrywiaeth o waith ymarferol lle bydd y dysgwr yn ennill y wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol sylfaenol sy’n ofynnol i weithio yn yr amgylchedd peirianneg.

CA4

Ym Mlwyddyn 10, mae disgyblion yn cwblhau dwy uned gan gynnwys The Engineering World. Mae hon yn uned ar-lein, wedi’i hasesu’n allanol. Mae disgyblion yn dysgu am sectorau Peirianneg, Iechyd a Diogelwch, prosesau a deunyddiau gweithgynhyrchu gan gynnwys rhai modern a chyfansoddion. Maent hefyd yn astudio graddfeydd cynhyrchu, cynaliadwyedd cynhyrchion peirianyddol a materion amgylcheddol gan gynnwys prosesau ynni adnewyddadwy. Maent yn gweithio ar dasgau yn unigol ac yn datblygu sgiliau ymchwil grŵp hefyd. Y ffordd orau i ddisgyblion ddysgu’r wybodaeth hon yw wrth gymhwyso a datblygu eu sgiliau trwy brofiadau ymarferol. Mae Uned 2 hefyd yn cael ei chwblhau ym Mlwyddyn 10. Ar gyfer yr uned hon, rhoddir teclyn i ddisgyblion y gallant ei ddadosod ac mae’n ofynnol iddynt ymchwilio i’r deunyddiau a ddefnyddir ym mhrosesau gweithgynhyrchu’r cynnyrch, gan gynnwys prosesau rheoli a sicrhau ansawdd.

Ym Mlwyddyn 11, bydd disgyblion wedyn yn datblygu eu sgiliau ymarferol ymhellach ac yn eu cymhwyso i’r uned waith olaf sef technegau peiriannu. Rhoddir dau lun Peirianneg i’r disgyblion a gofynnir iddynt ysgrifennu prosesau cam wrth gam o sut y byddent yn gweithgynhyrchu’r cynhyrchion gan ddefnyddio peiriannau fel y dril piler. Mae disgyblion yn dysgu sut i ddarllen siartiau tapio a chyflymder fel y gallant osod paramedr ar y peiriannau hyn a dewis yr offer torri gofynnol. Mae disgyblion yn cadw cofnod ffotograffig ac ysgrifenedig o dystiolaeth sy’n dangos prosesau y maent yn eu defnyddio ac yna’n gwerthuso’r cynhyrchion a wneir gan ddefnyddio taflenni arolygu ac yn cyflwyno’u gwaith i’r dosbarth.

CA5

Mae disgyblion sy’n dilyn y cwrs hwn yn aml yn dewis aros yn Ysgol Gyfun Aberaeron ac ymuno â’r Chweched Dosbarth gan ddilyn y cwrs Dylunio Cynnyrch Safon Uwch. Mae rhai hefyd yn mynd i’r coleg neu’n dod yn brentisiaid yn y maes hwn.

CYFLEOEDD ALLGYRSIOL

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i Beirianwyr brofi a datblygu eu sgiliau datrys problemau trwy gymryd rhan mewn heriau megis heriau STEM ar gyfer Ysgolion Gorllewin Cymru.

Mae disgyblion yn cymryd rhan yng nghystadlaethau Eisteddfod yr Ysgol ac ym Mlwyddyn 10 yn cynhyrchu coron ar gyfer y seremoni gyflwyno.