Cymraeg
Mrs Elin Efans - Pennaeth Adran
Miss Manon Dafydd
Miss Marian Evans
Mrs Esyllt Môn Jones
Crewyd rhywfaint o’r cynnwys hwn cyn i reolau Covid-19 ddod i rym.
GWELEDIGAETH
Yr hyn sy’n bwysig i ni yn yr adran yw bod pob disgybl yn teimlo’n hyderus wrth siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg a’u bod yn teimlo’n falch o allu siarad yr iaith a bod yn ddwyieithog.
YSTAFELLOEDD AC ADNODDAU
Mae’r gwersi Cymraeg i gyd yn digwydd yn ystafelloedd 3, 5, 7 ac 8. Rydym hefyd yn defnyddio Llyfrgell yr Ysgol ar gyfer gwersi darllen ac yn defnyddio’r ystafelloedd TGCh er mwyn cwblhau gwaith ar y cyfrifiaduron.
Y CWRICWLWM – TROSOLWG BRAS
Rydym yn dysgu Iaith Gyntaf o Flwyddyn 7 hyd at y Chweched Ddosbarth ac yna Ail Iaith o Flwyddyn 7-11.
CA3
Yn ystod pob tymor rydym yn astudio thema gwahanol gan roi sylw penodol i’r sgiliau llafar, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Yn ystod y gwersi CA3 rydym yn cyflwyno ac yn eich paratoi ar gyfer y sgiliau fydd angen arnoch wrth astudio TGAU.
CA4
Manyleb Ail Iaith TGAU: https://www.cbac.co.uk/media/cl0blk3z/wjec-gcse-welsh-second-language-spec-from-2017-w-08-09-2020.pdf
Manyleb Iaith Gyntaf (Iaith): https://www.cbac.co.uk/media/ugldnr4l/wjec-gcse-welsh-language-specification-2015-23-10-14-branded-cymraeg.pdf
Manyleb Iaith Gyntaf (Llenyddiaeth): https://www.cbac.co.uk/media/xyfnwjl5/wjec-gcse-welsh-literature-spec-from-2015-w-03-12-2020.pdf
CA5
Manyleb: https://www.cbac.co.uk/media/4ibo3zv0/wjec-gce-welsh-first-language-spec-from-2015.pdf
CYFLEOEDD ALLGYRSIOL
Mae nifer o gyfleoedd gwych gennym i bob disgybl yn yr Adran. Rydym yn eich hybu i gystadlu gyda’r
Urdd. Mae Clwb CIB yn bwysig i ni er mwyn i chi allu cymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae
hefyd cyfle i chi gystadlu yn y cystadlaethau siarad cyhoeddus o Flwyddyn 10 ac i fyny. Rydym wedi croesawu nifer o siaradwyr gwadd i’r adran ac wedi bod ar ambell i daith megis taith Blwyddyn 8 yr
Urdd i Lanllyn, teithiau i Theatr Felinfach, y Llyfrgell Genedlaethol a thaith dau ddiwrnod y Chweched
Dosbarth i’r Gogledd.