Technoleg Gwybodaeth
Mrs Eirlys James-Evans Pennaeth Adran
Crewyd rhywfaint o’r cynnwys hwn cyn i reolau Covid-19 ddod i rym.
GWELEDIGAETH
Mae TGCh yn cael effaith sylweddol ar ein bywydau a bydd hyn yn parhau pa bynnag lwybr gyrfa a ddewiswch. Mae’r dechnoleg sydd ar gael inni yn newid yn gyflym. Yma yn Aberaeron, ein nod yw i sicrhau ein bod yn datblygu ein myfyrwyr i fod yn ddinasyddion cymwys yn ddigidol a all fanteisio ar y dechnoleg sydd ar gael iddynt i gofoethogi eu dysgu.
YSTAFELLOEDD AC ADNODDAU
Mae gan yr ysgol sawl ystafell gyfrifiaduron a throlïau gliniaduron a ddefnyddir yn helaeth gan bob adran.
Y CWRICWLWM – TROSOLWG BRAS
Mae disgyblion yn derbyn gwersi TGCh o Fl 7 ac yn cael cyfle i gwblhau TGAU yn y pwnc neu gwrs yn y chweched dosbarth.
Mae hwn yn bwnc sy’n addasu’n barhaus ac rydym ni yma yn Aberaeron yn gwneud ein gorau i hyrwyddo sgiliau digidol ein disgyblion trwy ddarparu cyfleoedd i weithio gydag amrywiaeth o ddyfeisiau a meddalwedd cyfoes.
Mae bod yn ddinesydd digidol cymwys yn fwy na gallu defnyddio technoleg, mae hefyd yn ymwneud â gallu defnyddio technoleg yn ddiogel. Dyna pam mae rhai gwersi yn seiliedig ar theori ac yn ymroddedig i edrych ar hunaniaeth, delwedd ac enw da, iechyd a lles, hawliau digidol, trwyddedu a pherchnogaeth yn ogystal ag ymddygiad ar-lein a seiberfwlio ar-lein.
DYSGU YN Y CARTREF
Bydd y disgyblion yn defnyddio HWB ac Office 365 i gael mynediad at waith ysgol a gwaith cartref. Mae hwn yn blatfform rhagorol sy’n caniatáu i ddisgyblion ryngweithio a chydweithio â’i gilydd trwy e-bost, Class NoteBook a Teams.