INSET DAY - FRIDAY 30TH OF JUNE - SCHOOL WILL BE CLOSED

Addysg Gorfforol

Mr Llyr Thomas - Pennaeth Adran

Mr Mathew Hill

Mr Ryan Williams

Miss Carwen Richards

Crewyd rhywfaint o’r cynnwys hwn cyn i reolau Covid-19 ddod i rym.

GWELEDIGAETH

Ein bwriad yw eich bod chi’n gadael yr Ysgol hon yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eich oes. Chi yw hyfforddwyr, dyfarnwyr a chwaraewyr y dyfodol ar gyfer ein clybiau lleol.

 

YSTAFELLOEDD AC ADNODDAU

Mae gennyn ni gaeau rygbi a phêl-droed gwych ac ry’n ni’n aml yn cynnal cystadlaethau Sirol yma. Ar y campws ei hunan, rydym yn gwneud defnydd cyson o’r Ganolfan Hamdden. Dyma lle mae swyddfa Steve, Swyddog 5×60 yr Ysgol.

 

Y CWRICWLWM – TROSOLWG BRAS

Yma yn Ysgol Gyfun Aberaeron, byddwch yn datblygu’ch cymhelliant, gwydnwch a’ch sgiliau cyfathrebu ac yn meithrin eich gallu i asesu risg, gwneud penderfyniadau a dangos parch.

 

CA3

Mae pob disgybl Bl. 7-9 yn derbyn dwy wers yr wythnos o Addysg Gorfforol, un yn wers Chwaraeon e.e. hoci neu rygbi, a’r llall yn wers Ymarfer Corff e.e. nofio.

 

CA4: TGAU ADDYSG GORFFOROL

Os ydych chi’n dewis astudio Addysg Gorfforol fel pwnc TGAU, byddwch yn dysgu am bethau megis technoleg chwaraeon a biomecaneg yn eich gwersi theori ac ymarferol.

Manyleb: https://www.cbac.co.uk/media/v54nv03o/wjec-gcse-physical-education-spec-from-2016-w-08-04-2020.pdf

 

CA5: PEARSON BTEC LEVEL 3 NATIONAL EXTENDED CERTIFICATE IN SPORT

Nid oes gwersi Addysg Gorfforol craidd i Fl. 12 a 13. Rydyn ni’n cynnig cwrs BTEC Chwaraeon yn hytrach na chwrs Addysg Gorfforol UG/ Uwch CBAC. Mae canran uchel o’r gwersi yn wersi theori oni nodir yn wahanol.

Manyleb: https://qualifications.pearson.com/content/dam/pdf/BTEC-Nationals/Sport/20161/specification-and-sample-assessments/9781446938096_BTEC_Nat_ExtCert_Sport_SPEC.pdf

 

DYSGU YN Y CARTREF

Credwn yn gryf y dylai pob disgybl geisio ymaelodi ag o leiaf un clwb allgyrsiol lleol. Mae hyn yn allweddol i ddatblygu unigolion iach, hyderus.