INSET DAY - FRIDAY 30TH OF JUNE - SCHOOL WILL BE CLOSED

Hafan / Encil

Nia Richards

Sharon Thomas

Beth yw Hafan?

Lle i fynd am gyngor, cefnogaeth a chlust ddi-feirniadol i bob disgybl yw Hafan. Ystafell gartrefol yn yr ysgol ble y cyfeirir disgybl er mwyn derbyn cynhaliaeth emosiynol ac ymarferol. Y bwriad yw cynnig cynhaliaeth i’r disgybl i ymdopi gydag agweddau o fywyd yr ysgol sy’n anodd iddo ef/iddi hi. Gall ddisgybl gyfeirio ei hunan at yr Hafan neu gael ei gyfeirio gan aelod o staff.

Mae Hafan hefyd yn gwneud defnydd o nifer o asiantaethau allanol er mwyn sicrhau y gofal a/ neu’r gefnogaeth orau i’r disgybl o dan sylw. Gweler y rhestr isod o asiantaethau allanol a ddefnyddir.

Dyma ragor o ddoleni a allai fod o gymorth:

Beth yw Encil?

Cyfeirir disgybl at yr Encil pan nad yw’n cydymffurfio â rheolau’r ysgol ac i ynysu’n fewnol. Pan fydd achos o ynysu mewnol cysylltir â rhieni i roi gwybod iddynt a chedwir cofnod o hynny. Gall ddisgybl fod yn yr Encil am hyd at uchafswm o 3 diwrnod. Er mwyn sicrhau cysondeb, dim ond aelodau’r Uwch Dîm Rheoli all gyfeirio disgybl i’r Encil.

Cwnsela

Cynigir gwasanaeth cwnsela ar safle’r ysgol dau ddiwrnod yr wythnos. Mae modd i ddisgybl gyfeirio ei hunan neu gall wneud apwyntiad drwy gysylltu ag aelod o staff. 

Cyfeiriad e-bost Hafan: hafan@ygaberaeron.org.uk